Ffeil-O-Ffaith: Iau

English




Ffeil-O-Ffaith y Planedau
Mercher Gwener Daear Mawrth Iau Sadwrn Wranws Neifion

Iau

Dyma'r bumed blaned oddi wrth yr Haul.

Iau yw'r blaned fwyaf yng nghysawd yr Haul (mae ei diamedr ar y cyhydedd tua 88,846 o filltiroedd). Mae màs Iau tua 2.5 gwaith yn fwy na màs yr holl blanedau eraill yng nghysawd yr Haul gyda'i gilydd.

Gelwir y blaned yn gawr nwy oherwydd iddi gael ei ffurfio'n bennaf o nwyon hydrogen a heliwm. Nid ydym yn gwybod ai nwyon yn unig sydd ynddi ynteu a oes craidd solet i'r blaned.

Mae'r cymylau o gwmpas Iau wedi'u ffurfio o grisialau amonia.

Dyma'r blaned fwyaf yng nghysawd yr Haul a hithau hefyd yw'r blaned sy'n troelli gyflymaf. 10 awr yn unig y mae un cylchdro ar ei hechelin yn ei gymryd (un diwrnod Iau). Er hynny, mae'n cymryd 12 blwyddyn Daear i gwblhau un orbit o'r Haul.

Oherwydd maint a chyflymdra troelli'r blaned, mae'n cynhyrchu maes magnetig sydd 14 gwaith yn fwy pwerus na'r Ddaear.

Mae gan Iau 79 o leuadau y gwyddom amdanyn nhw. Enwau'r pedair fwyaf yw Ganymede, Io, Ewropa a Calisto. Ganymede yw'r lleuad fwyaf yng nghysawd yr Haul (ychydig yn fwy na Mercher). Gan fod y pedair lleuad hyn mor fawr, gallwch eu gweld trwy finocwlar yn unig ar noson glir.

Iau fel y delweddwyd gan stiliwr Voyager ym 1979

Teithiau

Mae saith o'n llongau gofod wedi ymweld â'r blaned Iau.

Y daith lwyddiannus gyntaf i Iau oedd taith heibio iddi yn 1973 gan Pioneer 10 (chwiliedydd gofod NASA, sef y cyntaf i adael cysawd yr Haul). Ers hynny, teithiwyd heibio iddi bedair gwaith ar y ffordd i blanedau eraill.

Galileo oedd y llong ofod gyntaf i fynd i mewn i orbit Iau yn 1995. Arhosodd yno tan 2003. Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth ddarganfod data ar bedair prif leuad Iau a ddangosai fod dŵr yn bodoli o dan arwynebau tair ohonynt.

Mae chwiliedydd NASA o'r enw Juno mewn orbit o amgylch Iau ar hyn o bryd. Cyrhaeddodd y chwiliedydd hwn orbit Iau yn 2016 (ar ôl teithio dros 2 filiwn o filltiroedd) a bydd yn parhau ar ei daith tan 2021. Un o amcanion casglu data'r chwiliedydd hwn yw ceisio pennu beth yw strwythur craidd y blaned.

Cwestiynau

Defnyddiwch y wybodaeth uchod i ateb y cwestiynau hyn:

  1. Os yw Ganymede yn fwy na Mercher, pam y'i gelwir yn lleuad yn hytrach na phlaned?
  2. Sawl diwrnod Iau sydd mewn blwyddyn Iau?
  3. Pam nad yw NASA am fentro gyrru cylchdröwr, a allai gludo microbau'r Ddaear, i mewn i un o brif leuadau Iau?
  4. Pam mae gan Iau gynifer o leuadau?

Atebion

Dyma ddolen fydd yn eich cysylltu â'r daflen atebion ar gyfer yr ymarfer hwn. Peidiwch â'i defnyddio tan ar ôl i chi roi cynnig ar yr holl weithgareddau


Yn ôl i Dudalen Gartref Ffiseg